Welcome to the Whitland Memorial Hall, located in the heart of Whitland
View this page in English

HANES

Saif y Neuadd Goffa mewn safle delfrydol ar ganol Hendygwyn-ar-Daf ac fe' i codwyd yn wreiddiol ar ddarn o dir yn Stryd y Farchnad a berthynai i gangen Hendy Gwyn o Ffederasiwn y Morwyr a' r Milwyr Dadfyddinol. Safai hen gaban milwrol a elwid "The Institute" ar y darn tir hwnnw. Câi ei ddefnyddio gan gyn-filwyr a daeth yn glwb biliards a snwcer poblogaidd.Ym mis Tachwedd 1927 trosglwyddwyd y tir a' r caban i dref Hendygwyn-ar-Daf ac etholwyd Ymddiriedolwyr i' w gweinyddu.

Dywed un o brif gymalau' r Gweithredoedd:-

"Saif yr Ymddiriedolwyr mewn meddiant o' r adeiladau……….i godi neu ganiatáu i godi arno Neuadd gydag ystafelloedd clwb, ystafelloedd biliards, swyddfeydd a thai mas addas ac i ganiatáu' r tir a' r adeiladau dywededig i' w defnyddio' n wastadol fel man adloniant a chyfeillach gymdeithasol er budd trigolion tref Hendygwyn-ar-Daf yn ddiwahaniaeth o enwad na gwleidyddiaeth".

Gwireddodd y Neuadd Goffa newydd yr amcanion hynny  ar fyr o dro, gan ddatblygu' n ganolfan brysur.  Un o' r ystafelloedd mwyaf yw' r brif neuadd  sy' n cynnwys cofeb gydag enwau y rhai a  laddwyd yn  Rhyfel Byd I yn ogystal a ffrâm yn cynnwys llun bob un ohonynt. Codwyd ail gofeb ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd i goffáu meirwon y rhyfel honno. Cynhelir gwasanaeth byr a gosod plethdorchau yno ar Ddydd y Cofio cyn yr orymdaith i  eglwys leol.

Arferai Llys yr Ynadon gyfarfod yn y brif ystafell am flynyddoedd ond gyda chanoli' r llysoedd, symudwyd yr Ynadon i Gaerfyrddin. Defnyddir yr ystafell honno o hyd fel Gorsaf Bleidleisio yn ystod etholiadau lleol a chenedlaethol. Daeth llawer o newid i drefniant y Neuadd o ganlyniad i' r  rheolau newydd ynglyn ag iechyd a diogelwch, y newid yn arferion pobl, a dyfodiad teledu, cyfrifaduron a.y.b.  Symudodd y clinigiau a' r Cofrestrydd i' r Ganolfan Feddygol ac nid yw' r Clwb snwcer yn bodoli bellach. Ceisiodd y Pwyllgor Rheoli  gynnal diddordeb yn y biliards a' r snwcer gan wahodd pobl leol i drefnu cyfarfodydd gan gynnig prydles i sefydliadau lleol, ond heb lawer o lwyddiant ac ni chynhyrchai lawer o incwm.

Drwy ddyfalbarhad y Pwyllgor Rheoli presennol yn hyrwyddo' r Neuadd, mae' r diddordeb ynddi wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd y galw am ragor o le, penderfynodd y Pwyllgor werthu' r ddwy ford snwcer a' r offer, gan sicrhau ystafell fawr arall at wasanaeth y cyhoedd. Felly mae yma nawr, ddwy ystafell fawr ar gael yn ogystal â' r ystafell bwyllgor a' r gegin.

Mae' r digwyddiadau a ddarperir ar eu cyfer ar hyn o bryd yn cynnwys cyfarfodydd cyhoeddus, etholiadau, dathliadau efeillio, gyrfaoedd chwist, Sefydliad y Merched, sioeau gardd a blodau, partïon penblwydd, ymarferion Côr Meibion, dosbarthiadau cadw' n heini, y Lleng Brydeinig ac eraill.  Defnyddir yr holl ystafelloedd hefyd gan y Pwyllgor Rheoli ar gyfer codi arian trwy ffeiriau, boreau coffi, te mefus, cyngherddau a.y.b.  Apwyntiwyd nifer o Ymddiriedolwyr newydd ac ifancach yn ddiweddar - pawb ohonynt yn awyddus i foderneiddio' r Neuadd gyda systemau mwy cynaliadwy ac i ddarparu amgylchoedd dymunol ac addurniadol i' r mynychwyr. 

O' r dechrau cyntaf, enillodd y Neuadd Goffa le cynnes yng nghalonnau trigolion y dref a' r cylch - rhywbeth na rennir gan y neuaddau eraill.  Mae' n anodd gwybod beth sy' n gyfrifol am hynny - ei phenodiad fel Neuadd Goffa neu' r ffaith mai hi oedd y neuadd gyntaf i' w throsglwyddo i' r dref. Byddai' n well gan yr Ymddiriedolwyr gredu mai anwyldeb wedi' i ennill ydyw! - ac maen nhw' n awyddus i sicrhau bod y berthynas hapus honno yn parhau.

 
Copyright - 2010 - Whitland Memorial Hall - All Rights Reserved