![]()
- Hafan
 - Cyfleusterau
 - Hanes
 - Clwb Gwaith
 - Ydych chi'n edrych am waith?
 - Ydych chi'n edrych am staff?
 - Marchnad Gynnyrch Lleol
 - Digwyddiadau Nesaf
 - Newyddion
 - Cysylltu
 - Dod o hyd inni
 
	 ![]()
- Gwylio pwysau
 - Lles Adfywio
 - Sefydliad y Merched
 - Côr Meibion Hendy Gwyn
 - Gyrfaoedd Chwist
 - Cymdeithas Efeillio Hendy-Gwyn a’r Cylch
 
Job Club
"Agor drysau / Open Doors"
	 
Gobeithio bydd Clwb Gwaith Hendygwyn yn agor drysau i chi ac mae'n drysau ni ar agor i bob un ohonoch
Mae'r Clwb Gwaith yn le lle gall busnesau lleol a phobl leol gyd-weithio a chyfnewid cyfleuon gwaith – swyddi un tro, rhan amser neu lawn amser.
Mae'n cyfarfod ar y Dydd Mercher cyntaf o'r mis o 2 hyd 4 o'r gloch y prynhawn.
Bydd cyfle i drefnu rhagor o sesiynnau yn y dyfodol yn ôl y galw.
Bydd Cymorth Gwaith Gweithffyrdd a Swyddogion Adfywio amrywiaeth o sefydliadau eraill yn cyd-weithio gyda ni i gynnig cyngor ar bynciau gwaith perthnasol.
Yn y dyfodol agos trefnir trafodaethau a gweithdai ar amrywiaeth o destunau (e.e. sut i baratoi CV, sut i baratoi ar gyfer cyfweliad a.y.b.).
Efallai bydd gan Glwb Gwaith Hendygwyn yr union ateb
Os ydych yn chwilio am:
- Rhyw waith rhan amser
 - Incwm ychwanegol
 - Rhywbeth gwahanol i'w wneud.
 
Pobl Ty neu deulu! Oes angen rhywun arnoch i wneud rhyw jobsys bach?
- Peintio'r sied, ffwrwm yr ardd, ffenestri a.y.b.
 - Gwneud y tasgiau garddio nad ydych yn hoffi eu gwneud. 
		 
- Torri'r lawnt
 - Torri pen clawdd
 - Chwynu'r border blodau
 - Palu'r pâm llysiau
 - Rhacau'r dail
 
 - Smwthio
 - Cynorthwyo gyda glanhau'r ty.
 - Clirio'r garej neu'r sied
 - a.y.b., a.y.b.,a.y.b.
 
Gallai busnesau wneud tro â phâr o ddwylo ychwanegol ambell waith:
- I gyflawnu'r gwaith fu'n aros am fisoedd.
 - I roi help llaw yn ystod cyfnod prysur gyda gwaith swyddfa, pacio, dosbarthu.
 - I glirio gwaith sydd wedi pentyrru.
 
 ![]()
|   
            
        
  			
        	
                        
        	        	            
                    	 
				Tuesday - Apr 10, 2018 
                10:53 am             
        	        	
                        
        	        
        	        
			        	  
			  WWI Centenary Commemorations (2014-2018)   
              Read more...
        	 
        
           | 
         
|   
            
        
  			
        	
                        
        	        	            
                    	 
				Wednesday - Jan 24, 2018 
                12:31 pm             
        	        	
                        
        	        
        	        
			        	  
			  We are in the process of having our website re-designed and updated   
              Read more...
        	 
        
           | 
         






